Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Hydref 2023
Amser:
09.03 -
09.11
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Russell George AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd Russell George yn bresennol, yn dirprwyo ar ran Darren Millar. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (30 munud) - Gohiriwyd tan 12 Rhagfyr
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.
Gofynnodd Russell George am ddatganiad llafar gan y Llywodraeth heddiw am y llifogydd a welwyd mewn rhannau o Gymru dros y penwythnos. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n rhoi ystyriaeth i'r mater.
Dydd Mercher
3.2 Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sicrhau Treth Gyngor Decach (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Anghenion Seilwaith Trosglwyddo Trydan Cymru ar gyfer Sero Net (30 munud)
· Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 (15 munud)
· Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 (15 munud)
· Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)
Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad i’r Pwyllgor Busnes ar ymdrechion i liniaru'r amser gorffen hwyr arfaethedig i'r Cyfarfod Llawn ar 21 Tachwedd. Nododd y Trefnydd y gallai newidiadau pellach ddod ac y bydd yn rhoi diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.
3.3 Amserlen y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Amserlen ar gyfer Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Unrhyw Fusnes Arall
Y Bil 'Cwotâu Rhywedd'
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes bod y Llywodraeth, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, yn bwriadu cyflwyno'r Bil Cwotâu Rhywedd (Cymru) ar 4 Rhagfyr 2023.
Cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr Grwpiau
Gofynnodd Russell George a yw'r Llywydd yn disgwyl i lefarwyr ac arweinwyr ddefnyddio eu cwestiynau i weinidogion i ddilyn thema eang. Cadarnhaodd y Llywydd fod y Canllawiau ar y modd Priodol o Gynnal Busnes y Senedd yn nodi bod hyn yn ddisgwyliad o ran cwestiynau llefarwyr ond nid cwestiynau arweinwyr